Dyddiad yr Adroddiad

06/03/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Diogelu

Cyfeirnod Achos

202307520

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am y camau a gymrodd Gyngor Sir y Fflint o fis Tachwedd 2021 ymlaen pan aeth ei ferch, Y, i fyw gyda’i nain ac yna i gartref gofal rheoledig. Roedd Mr X yn anhapus â’r ymchwiliad Cam 2 annibynnol i’w gŵyn. Roedd Mr X hefyd yn anhapus gan gredu nad oedd ei bedwaredd gŵyn wedi cael sylw gan y Cyngor.

Ni allai’r Ombwdsmon ystyried y cwynion yn ymwneud ag Y oherwydd nid oedd wedi rhoi ei chaniatâd i’r Ombwdsmon gael gwneud hynny, a fyddai wedi golygu cael gweld ei chofnodion personol. Felly roedd yr asesiad o gŵyn Mr X yng nghyswllt y cwynion a oedd yn ymwneud â fo’n unig.

Er mwyn datrys cwyn Mr X, cytunodd y Cyngor o fewn 20 diwrnod gwaith i roi ymateb pellach i Mr X gan gynnwys ymddiheuro wrtho am beidio â gweithredu ar ei gais i gael cyfarfod wyneb yn wyneb oherwydd y nam ar ei glyw, ac am unrhyw ddryswch am sut y deliwyd â llythyr ei bedwaredd gŵyn, ynghyd ag esboniad pellach o sut y deliwyd â hyn.

Roedd yr Ombwdsmon yn ystyried bod y camau hyn yn rhesymol i ddatrys cwyn Mr X.