Dyddiad yr Adroddiad

01/16/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Pwnc

Dyletswydd i gynnal y gyfraith

Cyfeirnod Achos

202207282

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Bwyllgor Safonau

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Castell-nedd Port Talbot (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad.  Honnwyd i’r Aelod gael ei arestio gan yr Heddlu ar amheuaeth o yrru ei gar tra’i fod dan ddylanwad alcohol.

Cyfeiriom ein hadroddiad ar yr ymchwiliad at Ddirprwy Swyddog Monitro’r Cyngor i’w ystyried gan y Pwyllgor Safonau lleol.

Caiff y crynodeb hwn ei ddiweddaru yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Safonau.