Dyddiad yr Adroddiad

03/13/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Aberystwyth

Pwnc

Dyletswydd i gynnal y gyfraith

Cyfeirnod Achos

202207025/202106268

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Panel Dyfarnu Cymru

Derbyniom gwynion gan Gyngor Sir Ceredigion (“y Cyngor”) fod cynghorydd (“y Cyn Gynghorydd”) wedi torri Cod Ymddygiad y Cyngor.  Roedd y Cyn Gynghorydd hefyd yn Gynghorydd yng Nghyngor Tref Aberystwyth.

Roedd y Cyngor yn bryderus bod y Cyn Gynghorydd wedi bod yn gysylltiedig â nifer o ddigwyddiadau ar wahân yn ymwneud ag ymddygiad aflonyddu a stelcian amhriodol tuag at fenywod.  Roedd rhai o’r digwyddiadau yn ymwneud ag aflonyddu rhywiol.

Ein canfyddiad, o dan adran 69 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, oedd bod ein hadroddiad ar ein hymchwiliad yn cael ei gyfeirio at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru, i’w ddyfarnu gan dribiwnlys.

Caiff y crynodeb hwn ei ddiweddaru yn dilyn penderfyniad Panel Dyfarnu Cymru.