Dyddiad yr Adroddiad

27/03/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Cei Newydd

Pwnc

Dyletswydd i gynnal y gyfraith

Cyfeirnod Achos

202204033

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Panel Dyfarnu Cymru

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Cyn Aelod (“y Cyn Aelod”) o Gyngor Tref Cei Newydd (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad. Honnwyd bod y Cyn Aelod wedi ei gyhuddo gan yr Heddlu o fwriad maleisus i flacmel neu aflonyddu. Ein canfyddiad, o dan adran 69 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, oedd bod ein hadroddiad ar ein hymchwiliad yn cael ei gyfeirio at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru, i’w ddyfarnu gan dribiwnlys.

Canfu’r Tribiwnlys fod y Cyn Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad. Ei sancsiwn oedd anghymhwyso’r Cyn Aelod rhag bod yn aelod o unrhyw Awdurdod Perthnasol, fel y nodir yn Neddf Llywodraeth Leol 2000, am 12 mis.

Mae penderfyniad y Tribiwnlys Achos ar gael yma (yn Saesneg).