Dyddiad yr Adroddiad

05/03/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Abertyleri a Llanhiledd

Pwnc

Dyletswydd i gynnal y gyfraith

Cyfeirnod Achos

202105435

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Bwyllgor Safonau

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Abertyleri a Llanhiledd (“y Cyngor”) wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad. Honnwyd bod yr Aelod wedi llofnodi dogfennau a olygai bod Cyn-glerc a Chyn-ysgrifennydd y Cyngor wedi cael gormod o daliadau rhodd, a bod yr Aelod wedi methu â datgan buddiannau yn ymwneud â’r Cyn-glerc a’r gordaliadau.

Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau a ganlyn yn y Cod Ymddygiad:

  • 6(1)(a) – Rhaid i Aelodau beidio ag ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ystyried ei fod yn dwyn anfri ar eu swydd neu eu hawdurdod.
  • 7(a) – Rhaid i Aelodau, yn rhinwedd eu swydd neu fel arall, beidio â defnyddio neu geisio defnyddio eu swydd yn amhriodol i roi neu sicrhau mantais iddynt hwy eu hunain, nac i unrhyw un arall, na chreu nac osgoi anfantais iddynt hwy eu hunain, nac i unrhyw un arall.
  • 7(b) – Rhaid i Aelodau beidio â defnyddio adnoddau ei awdurdod, neu awdurdodi eraill i’w defnyddio:  (i) yn annoeth (ii) yn groes i ofynion ei awdurdod (iii) yn anghyfreithlon
  • 11 (1) – Pan fydd gan Aelod fuddiant personol mewn unrhyw fusnes y gwnelo ei awdurdod ag ef ac y bydd yn bresennol mewn cyfarfod lle y caiff y busnes hwnnw ei ystyried, rhaid iddo ddatgelu ar lafar gerbron y cyfarfod hwnnw fodolaeth a natur y buddiant hwnnw cyn i’r cyfarfod ystyried y busnes neu ar ddechrau’r ystyriaeth, neu pan ddaw’r buddiant i’r amlwg.
  • 14(1)(a) – Pan fydd gan Aelod fuddiant sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes y gwnelo ei awdurdod ag ef rhaid iddo, oni roddwyd iddo ollyngiad gan Bwyllgor Safonau ei awdurdod, ymadael â’r ystafell, y siambr neu’r man lle y mae cyfarfod i ystyried y busnes yn cael ei gynnal.
  • 14(1)(c) – Pan fydd gan Aelod fuddiant sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes y gwnelo ei awdurdod ag ef rhaid iddo, oni roddwyd iddo ollyngiad gan Bwyllgor Safonau ei awdurdod, beidio â cheisio dylanwadu ar benderfyniad ynghylch y busnes hwnnw.
  • 14(1)(d) ­– Pan fydd gan Aelod fuddiant sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes y gwnelo ei awdurdod ag ef rhaid iddo, oni roddwyd iddo ollyngiad gan Bwyllgor Safonau ei awdurdod, beidio â gwneud unrhyw sylwadau ysgrifenedig (p’un ai drwy lythyr, neges ffacs neu ar ryw ffurf arall ar gyfathrebu electronig) ynghylch y busnes hwnnw.

Bu’r ymchwiliad yn ystyried tystiolaeth ddogfennol a ddarparwyd gan Archwilio Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Cafodd yr Aelod ei gyfweld a dywedodd fod Aelod arall wedi gofyn iddo lofnodi’r dogfennau. Dywedodd ei fod, wrth wneud hynny, wedi dibynnu ar gyngor a gyflwynwyd i’r Cyngor ac a oedd wedi awgrymu bod y symiau’n gywir.

Canfu’r ymchwiliad fod ymddygiad yr Aelod yn awgrymu bod amodau paragraff 6(1)(a) (anfri), 7(a) a 7(b) i), ii), iii) (camddefnyddio swydd ac adnoddau) o’r Cod Ymddygiad wedi’u torri. Canfu’r ymchwiliad nad oedd ymddygiad yr Aelod yn awgrymu bod amodau paragraff 11(1), 11(2)(b), 14(1)(a)(ii), 14(1)(c) a 14(1)(d) o’r Cod Ymddygiad (sy’n ymwneud â buddiannau) wedi’u torri.

Cyfeiriodd adroddiad yr ymchwiliad at Swyddog Monitro Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i’w ystyried gan Bwyllgor Safonau’r Cyngor.

Daeth Pwyllgor Safonau’r Cyngor i’r casgliad nad oedd yr Aelod, yn ôl pwysau tebygolrwydd, wedi torri paragraffau 6(1)(a) (anfri), a 7(b) i), ii), iii) (camddefnyddio safle ac adnoddau) a nodwyd bod hwn yn benderfyniad mwyafrifol ac nid yn unfrydol.