Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Llansanffraid (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad yn dilyn collfarn droseddol am yrru tra’n uwch na’r terfyn cyfreithiol ar gyfer alcohol. Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â pharagraff 1(1)(a) o’r Cod Ymddygiad o ran bod rhaid i aelodau beidio ag ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ei ystyried fel un sy’n dwyn anfri ar eu swydd neu eu hawdurdod.
Wrth ystyried budd y cyhoedd a phrif ddiben y gyfundrefn safonau moesegol yng Nghymru, sef cynnal safonau ymddygiad mewn bywyd cyhoeddus a chynnal hyder mewn democratiaeth leol, roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod collfarn yr Aelod wedi’i hadrodd yn y wasg leol. Roedd erthyglau yn y wasg, ar-lein ac mewn print, yn dogfennu ple euog a chollfarn yr Aelod ac yn amlygu y canfuwyd bod yr Aelod fwy na dwbl y terfyn cyfreithiol ar gyfer alcohol pan oedd yn gyrru.
Mae canllawiau’r Ombwdsmon yn nodi y gall ymddygiad sy’n arwain at gollfarn droseddol ddwyn anfri ar gyngor aelod hyd yn oed os yw’r ymddygiad yn digwydd ym mywyd preifat yr aelod. Roedd yr Aelod fwy na dwywaith y terfyn alcohol cyfreithlon ar gyfer gyrru ac nid yw ymddygiad o’r fath o’r safon a ddisgwylir gan gynghorwyr etholedig. Roedd yr Ombwdsmon hefyd yn bryderus, er bod yr Aelod yn cydnabod y gallai ei gollfarn fod wedi dwyn anfri ar ei swydd fel aelod, dywedodd iddo deimlo ei fod eisoes wedi’i “gosbi” ac felly wedi dangos diffyg dealltwriaeth i effaith ei ymddygiad troseddol ar enw da’r Cyngor. Felly, er bod yr ymddygiad y cwynwyd amdano wedi digwydd yn rhinwedd bersonol yr Aelod, roedd yr Ombwdsmon o’r farn y gallai ei gollfarn, a oedd yn ddifrifol, a’r sylw dilynol yn y wasg, fod wedi dwyn anfri ar ei swydd fel aelod. Yn unol â hynny, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod collfarn yr Aelod yn awgrymu torri paragraff 6(1)(a) ac y gallai fod wedi dwyn anfri ar ei swydd fel aelod.
Cyfeiriwyd yr ymchwiliad at Ddirprwy Swyddog Monitro Cyngor Sir Ceredigion i’w ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.
Canfu Pwyllgor Safonau’r Cyngor fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â pharagraffau 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad. Penderfynodd y Pwyllgor mai’r sancsiwn mwyaf priodol i’w gymhwyso oedd ei geryddu.