Dyddiad yr Adroddiad

20/03/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Fynwy

Pwnc

Dyletswydd i gynnal y gyfraith

Cyfeirnod Achos

202401376

Canlyniad

Dim angen gweithredu

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn a hunangyfeiriwyd gan aelod o Gyngor Sir Fynwy (“y Cyngor”). Esboniodd yr atgyfeiriad fod yr Aelod wedi methu á chadw at y Cod Ymddygiad (“y Cod”) ar gyfer aelodau’r Cyngor drwy ddatgelu gwybodaeth a allai fod yn sensitif neu’n gyfyngedig yn ystod cyfarfod o’r Cyngor.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod angen ymchwilio ac felly ystyriwyd y paragraffau canlynol o’r Cod:

  • 5(a) – rhaid i [aelodau] beidio â datgelu gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth y dylid yn rhesymol ei hystyried yn wybodaeth gyfrinachol, heb ganiatâd penodol person a awdurdodwyd i roi caniatâd o’r fath, neu oni bai bod y gyfraith yn mynnu hynny.
  • • 6(1)(a) – rhaid i [aelodau] beidio ag ymddwyn [eu hunain] mewn modd y gellid yn rhesymol ei ystyried fel un sy’n dwyn anfri ar eu swydd neu eu hawdurdod.

Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor, yr Aelod a thystion perthnasol.

Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod gweithredoedd yr Aelod wrth gyfeirio at y wybodaeth heb ganiatâd neu awdurdodiad penodol i wneud hynny a’r cyhoeddusrwydd dilynol ynghylch ei weithredoedd yn awgrymu torri’r paragraffau yn y Cod a ystyriwyd.

Fodd bynnag, wrth benderfynu ar ganlyniad yr ymchwiliad hwn, roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd angen cymryd camau pellach, drwy gyfeirio at Bwyllgor Safonau neu Banel Dyfarnu Cymru, er budd y cyhoedd. Roedd y ffactorau budd y cyhoedd a ystyriwyd yn cynnwys hunanfyfyrdod, edifeirwch a derbyn y toriadau posibl gan yr Aelod. Nodwyd hefyd bod yr Aelod wedi cymryd camau cyflym i gydnabod y datgeliad yr ymddengys ei fod yn seiliedig ar dybiaeth annoeth bod y wybodaeth yn y parth cyhoeddus ar y pryd.

O dan Adran 64(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd angen cymryd unrhyw gamau mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt.