Dyddiad yr Adroddiad

20/03/2025

Achos yn Erbyn

Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG

Pwnc

Eraill Amrywiol

Cyfeirnod Achos

202408072

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A ei bod, yn dilyn apwyntiad deintyddol, wedi cael Tâl Hysbysiad Cosb (“PNC”) gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (“yr Awdurdod”) ym mis Gorffennaf 2024. Dywedodd Miss A fod yr hawliad i’r Awdurdod wedi’i gyflwyno oherwydd gwall a wnaed gan ei practis deintyddol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod Miss A wedi cael PNC ym mis Gorffennaf 2024, ac eto ym mis Ionawr 2025, oherwydd camgymeriad ei phractis deintyddol. Bu oedi wrth ddatrys y mater ac felly cafodd Miss A 2 PNC heb ddim bai arni hi.

Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb yr Awdurdod i gynnig iawndal ariannol o £50 i Miss A am y trallod a’r rhwystredigaeth a achoswyd, o fewn pythefnos.