Dyddiad yr Adroddiad

06/08/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Eraill Amrywiol

Cyfeirnod Achos

202402957

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs L nad oedd Cyngor Bro Morgannwg wedi ymateb i 3 cwyn ynghylch y ffaith ei fod wedi dyblygu taliadau’r Gwasanaeth Gwastraff Gardd a hynny yn anghywir.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi ad-dalu’r taliad dyblyg ond nad oedd wedi ymateb i’r cwynion oherwydd dryswch ynghylch pa adran oedd yn gyfrifol am ymateb. Roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth a dryswch ychwanegol i Mrs L. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymateb i’r 3 cwyn o fewn 4 wythnos.