Cwynodd Mrs A ei bod yn anfodlon ar y ffordd yr oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi delio â’i chŵyn.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi cydnabod cwyn Mrs A, nad oedd wedi darparu ymateb ffurfiol. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mrs A ac i ddarparu ymateb i’r gŵyn o fewn 20 diwrnod gwaith.