Dyddiad yr Adroddiad

13/03/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pwnc

Eraill Amrywiol

Cyfeirnod Achos

202408793

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms B fod adran Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ceisio adennill rhan o’r colledion a gafwyd gan gwmni adeiladu i gychwyn, gan anwybyddu’r nwyddau a’r gwasanaethau yr oedd wedi talu amdanynt ond heb eu derbyn. Cwynodd Ms B hefyd fod y Cyngor wedyn wedi defnyddio’r dull anghywir i adennill ei cholledion, gan olygu nad oedd wedi cael unrhyw iawndal.

Canfuwyd bod y Cyngor wedi diwygio swm yr iawndal sy’n cael ei hawlio, o ganlyniad i bryderon Ms B. Canfuwyd hefyd nad oedd ymateb y Cyngor i’r gŵyn wedi mynd i’r afael â phryder Ms B am y dull a gymerwyd i adennill ei cholledion, er ei bod wedi gwneud cwyn ffurfiol am hyn.

O fewn 4 wythnos, cytunodd y Cyngor i gyhoeddi ymateb pellach i gŵyn Ms B a fydd yn mynd i’r afael â’i chŵyn am y dull a gymerwyd i adennill ei cholledion. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y cam hwn yn rhesymol a chafodd yr achos ei chau ar y sail hon.