Cwynodd Mr X nad oedd y Cyngor wedi cyflawni casgliad eitemau swmpus o’i eiddo.
Wrth ystyried ei gŵyn, nododd yr Ombwdsmon bod anghytundeb rhwng Mr X a’r Cyngor ynghylch a oedd y casgliad i fod i ddigwydd yn nhu blaen neu ar rodfa’r eiddo. Fodd bynnag, doedd dim anghydfod fod Mr X wedi talu ffi am y gwasanaeth, na ddigwyddodd ar y dyddiad a drefnwyd.
Yn dilyn trafodaethau gyda’r Ombwdsmon, cytunodd y Cyngor, o fewn 30 diwrnod gwaith, y byddai’n rhoi ad-daliad i Mr X am yr arian a dalwyd a chyflwyno llythyr ymddiheuro iddo ynghylch y casgliad na ddigwyddodd.