Dyddiad yr Adroddiad

13/11/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Eraill Amrywiol

Cyfeirnod Achos

202305928

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Dr X fod Cyngor Caerdydd wedi methu ymateb yn ffurfiol i’r gŵyn a gyflwynodd 14 wythnos yn ôl am dipio anghyfreithlon honedig ac am beidio â chasglu sbwriel.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi wedi bod ar ran y Cyngor i gyhoeddi ymateb. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Dr X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gyhoeddi ei ymateb ffurfiol i’r gŵyn o fewn pythefnos. Dylai’r ymateb hefyd gynnwys ymddiheuriad am yr oedi ac esboniad o’i gynllun i gael gwared ar y bin perthnasol. Dylid hefyd rhoi sicrwydd y bydd casgliadau’n cael eu monitro o hyn allan, ac y bydd ymdrechion yn cael eu gwneud i geisio diogelu’r man storio biniau er mwyn ceisio atal tipio anghyfreithlon yn y dyfodol.