Dyddiad yr Adroddiad

13/08/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Eraill Amrywiol

Cyfeirnod Achos

202403070

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Cyngor Caerdydd wedi cyfarwyddo beilïaid i fynd ar ei ôl am ddirwyon heb eu talu yn enw rhywun arall.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’r gŵyn a wnaeth Mr X ym mis Ebrill 2024 oherwydd gwall technegol.  Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mr X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro ac i roi esboniad am yr oedi ac i ymateb yn ffurfiol i gŵyn Mr X o fewn 4 wythnos.