Dyddiad yr Adroddiad

05/08/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ddinbych

Pwnc

Eraill Amrywiol

Cyfeirnod Achos

202401833

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod rhywun wedi gwahaniaethu yn ei erbyn oherwydd ei gyflwr iechyd. Roedd yn anhapus gydag ymatebion y Cyngor ar Gam 1 a Cham 2 a chyfeiriodd at y gwrthdaro rhyngddynt. Roedd ymateb Cam 1 yn dweud mai’r ffaith bod trwydded yrru Mr A wedi dod i ben oedd yr unig reswm pam nad oedd wedi cofrestru ar gyfer cynllun gwaith y Cyngor. Fodd bynnag, dywedodd ymateb Cam 2 er nad oedd ei drwydded yrru wedi dod i ben, nad oedd wedi’i gofrestru ar gyfer y cynllun oherwydd nad oedd wedi darparu’r ddogfen gywir.

Canfu’r Ombwdsmon fod ymchwiliad Cam 1 a Cham 2 y Cyngor yn is na’r safon a ddisgwylid gan gorff cyhoeddus. Petai’r ymchwiliad Cam 2 wedi ystyried yr hyn a ddywedwyd yng Ngham 1, gellid bod wedi osgoi ac ymdrin â’r gwrthdaro a’r anghywirdeb ffeithiol a oedd yn amlwg yn yr ymatebion. O ganlyniad i’r diffygion, collodd Mr A hyder yn y Gwasanaeth ac ym mhroses delio â chwynion y Cyngor ac roedd hyn yn anghyfiawnder iddo. Fel rhan o wersi pellach i’w dysgu o’r achos hwn, tynnodd yr Ombwdsmon sylw at y ffaith bod angen darparu hyfforddiant ar yr hyn sy’n cyfrif fel dogfennau priodol at ddibenion y cynllun gwaith. Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Mr A am y diffygion yn ei ymchwiliadau Cam 1 a Cham 2 a’r gwrthdaro yn ei ymatebion.