Dyddiad yr Adroddiad

19/06/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202402085

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn cynnwys ffeithiau anghywir mewn perthynas â’i adenomâu pitẅidol (tiwmorau di-ganser) a darparodd wybodaeth glinigol i gefnogi hyn.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus ynghylch y ffeithiau anghywir parhaus, o gofio bod y Bwrdd Iechyd wedi cael 2 gyfle i ymateb i gŵyn. Canfu’r Ombwdsmon fod hyn wedi arwain at golli hyder Mr A yn y ffordd y gwnaeth y Bwrdd Iechyd ddelio â’i gŵyn.

O dan Datrysiad Cynnar, cytunodd y Bwrdd Iechyd i gomisiynu adroddiad gan Ymddiriedolaeth Ysbytai GIG yn Lloegr (a oedd hefyd yn ymwneud â gofal Mr A) a fyddai’n mynd i’r afael â phryderon penodol Mr A, gan gynnwys ei adenomâu.