Cwynodd Miss X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd”) wedi rheoli ei gwythiennau chwyddedig yn briodol yn ystod ei beichiogrwydd. Cwynodd Miss X hefyd am y ffordd roedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â’i chŵyn a bod y modd roedd wedi ymchwilio iddi yn annigonol.
Ar ôl i’r Ombwdsmon agor ei ymchwiliad cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud y canlynol i setlo’r gŵyn:
a) O fewn 2 wythnos, ymddiheuro a thalu swm o £250 i Miss X i gydnabod y methiannau yn y modd roedd wedi delio â’r gŵyn a’r trallod a achoswyd gan hyn.
b) Cynnig apwyntiad i Miss X gyda Llawfeddyg Fasgwlaidd Ymgynghorol.
c) Bydd y Bwrdd Iechyd yn cysylltu â Miss X 2 wythnos ar ôl ei hapwyntiad â’r Llawfeddyg Fasgwlaidd Ymgynghorol ac yn rhoi cyfle iddi i gael barn arbenigol gan lawfeddyg fasgwlaidd. Os bydd Miss X yn gofyn am farn annibynnol, bydd y Bwrdd Iechyd yn trafod y dewis o arbenigwr â hi ac yn cyflwyno’r atgyfeiriad o fewn 2 wythnos. Bydd adroddiad yr arbenigwr annibynnol yn cael ei gwblhau o fewn 8 wythnos a bydd yn:
i. Cynnig sylwadau ar bryderon Miss X am y gwaethygiad i’r gwythiennau chwyddedig yn ystod ei beichiogrwydd, ac yn
ii. Cynnig barn ar reoli gwythiennau chwyddedig Miss X yn awr ac yn y dyfodol.
d) Ar ôl cael yr adroddiad arbenigol, bydd y Bwrdd Iechyd yn cytuno gyda Miss X ar ba gamau i’w cymryd. Bydd Arweinydd Clinigol y Bwrdd Iechyd a’r Cyfarwyddwr Clinigol ar gyfer y gwasanaeth fasgwlaidd yn adolygu adroddiad yr arbenigwr i sicrhau bod unrhyw argymhellion yn yr adroddiad yn cael eu cyflawni cyn gynted â phosibl.
Bydd y Bwrdd Iechyd yn cyflwyno tystiolaeth i’r Ombwdsmon sy’n dangos ei fod wedi cyflawni’r camau hyn.
Felly daethpwyd ag ymchwiliad yr Ombwdsmon i ben gan fod y camau a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd yn datrys y gŵyn.