Cwynodd Mr A am fethiant Cyfoeth Naturiol Cymru (“CNC”) i ymdrin a’i bryderon am y modd roedd cymydog wedi cael gwared ar do, a oedd yn cynnwys asbestos, sawl blwyddyn yn ol. Penderfynodd Mr A i beidio erlid y gwyn honno ar ol trafod y mater gyda swyddfa’r Ombwdsmon.
Hefyd, cwynodd Mr A am y ffordd siaradodd un o swyddogion CNC gydag ef dros y ffon. Ni chafodd Mr A ymateb sylweddol i’r gwyn honno gan CNC. Roedd hyn yn gamweinyddiaeth ar ran CNC. I ddatrys y gwyn, cytunodd CNC i ymchwilio’r cwyn ac i ddarparu ymateb priodol i Mr A o fewn 2 mis. Hefyd, dywedodd CNC byddant yn ymdrin a chwynion o’r fath yn wahanol yn y dyfodol i sicrhau bod aelodau o’r cyhoedd yn cael ymatebion priodol ar ol iddynt achwyn am ymddygiad swyddogion CNC.