Dyddiad yr Adroddiad

06/03/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202407232

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A ei fod yn anfodlon â’r gwaith a wnaed i’w eiddo drwy fenthyciad Homefix gyda Chyngor Abertawe. Dywedodd Mr A fod oedi hir, a bod yn rhaid i’r gwaith stopio i wneud cais am ganiatâd cynllunio pan sylweddolwyd bod ei eiddo mewn ardal gadwraeth. Dywedodd Mr A fod gwaith atgyweirio heb ei wneud, a bod difrod wedi’i achosi i’w eiddo yn ystod y gwaith. Dywedodd Mr A ei fod, ar brydiau, wedi canfod gwybodaeth ysgrifenedig gan y Cyngor yn anodd ei deall oherwydd nad Saesneg yw ei iaith o ddewis.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi gweithredu’n briodol mewn perthynas â’r gwaith a wnaed yn yr eiddo. Doedd dim modd osgoi rhai o’r oediadau, ac roedd y difrod a achoswyd yn ystod y gwaith wedi’i drwsio. Fodd bynnag, roedd y Cyngor yn dal Mr A yn gyfrifol am beidio â datgan bod ei eiddo mewn ardal gadwraeth yn ystod y cam ymgeisio. Nid oedd y Cyngor wedi gofyn am yr wybodaeth hon gan Mr A ac nid oes gan y Cyngor ganllawiau clir ar ba wybodaeth y mae disgwyl i ymgeiswyr ei darparu. Roedd y Cyngor yn cydnabod bod Mr A wedi cael trafferth deall rhywfaint o’r wybodaeth a ddarparwyd iddo ac wedi gofyn a fyddai ei berthynas yn cyfieithu iddo. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai, o fewn 2 wythnos, yn ymddiheuro i Mr A am ei ddal yn llwyr gyfrifol am gydnabod bod yr eiddo mewn ardal gadwraeth, yn datblygu canllawiau i nodi pa wybodaeth y mae disgwyl i ymgeiswyr ei darparu, cydnabod nad Saesneg yw iaith o ddewis Mr A a chynnig cyfieithu gwybodaeth i’w iaith o ddewis.