Dyddiad yr Adroddiad

07/06/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202401803

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr a Mrs T fod Cyngor Bro Morgannwg wedi methu â diwallu anghenion addysgol arbennig eu mab ac o ganlyniad ei fod bellach wedi bod o fyd addysg am 3 blynedd. Dywedodd Mr a Mrs T eu bod wedi ceisio trefnu cyfarfod gyda’r Cyngor, ond nad oedd wedi ymateb i’w negeseuon e-bost.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ag ymateb i negeseuon e-bost Mr a Mrs T am y cyfarfod. Dywedodd fod hyn wedi achosi anhwylustod a rhwystredigaeth i Mr a Mrs T. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Fe wnaeth yr Ombwdsmon geisio a chael cytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr a Mrs T am beidio ag ymateb i’r negeseuon e-bost a rhoi esboniad ynghylch pam y digwyddodd hyn. Cytunodd y Cyngor hefyd i drefnu dyddiad o fewn y 4 wythnos nesaf ar gyfer cyfarfod wyneb yn wyneb gyda Mr a Mrs T ac i ddarparu ymateb cam 2 o fewn 20 diwrnod gwaith i’r cyfarfod.