Dyddiad yr Adroddiad

25/10/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202404998

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi methu ag ymateb i’w gŵyn am oedi mewn perthynas â thystysgrif marwolaeth, a gyflwynodd i’r Cyngor ym mis Awst 2024.

 

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y Cyngor wedi methu â chofnodi ac ymateb i gŵyn Mr X yn unol â’i broses gwyno. Roedd hefyd wedi methu cyfeirio Mr X at Swyddfa’r Crwner er mwyn iddo fynd ar drywydd ei gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

 

Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro am yr esgeulustod, yr oedi a’r anhwylustod a achoswyd, cyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn, a chyfeirio Mr X at adran gwyno Swyddfa’r Crwner i fynd ar drywydd ei gŵyn, o fewn 3 wythnos.