Dyddiad yr Adroddiad

26/06/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202401206

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs B fod oedi wrth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam baratoi cynllun datblygu unigol (“CDU” – cynllun yn manylu ar anghenion dysgu ychwanegol plentyn a’r cymorth sydd ei angen arnynt) ar gyfer ei merch, na chafodd ei merch addysg rhwng Chwefror a Gorffennaf 2023 ac y bu oedi cyn sicrhau lleoliad ysgol.
Canfu’r asesiad o’r gŵyn hon ei bod wedi cymryd 14 mis i lunio’r CDU a oedd yn fwy na’r amserlen ddisgwyliedig o 12 wythnos. Roedd yr ymateb i gŵyn Mrs B gan y Cyngor yn dweud nad oedd unrhyw dystiolaeth bod yr amserlenni ar gyfer rhoi’r CDU at ei gilydd yn ormodol. Fodd bynnag, nid oedd yn egluro pam y penderfynwyd bod yr amserlen hon yn rhesymol er ei bod yn sylweddol dros 12 wythnos.
Cytunodd y Cyngor i gyhoeddi ymateb pellach i gŵyn Mrs B, gan gydnabod bod yr amser a gymerwyd i gwblhau’r CDU yn fwy na 12 wythnos a rhoi rhagor o fanylion ynghylch pam fod yr amserlen hon yn rhesymol ac yn briodol. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y cam hwn yn rhesymol a chafodd yr achos ei chau ar y sail hon.