Cwynodd Mr X fod y Cyngor wedi methu ag ymateb i’w gŵyn ynghylch cynnal a chadw dau barc a oedd, yn ei farn ef, yn peri risg sylweddol i iechyd a diogelwch y cyhoedd.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor roi ymateb ysgrifenedig o sylwedd i Mr X er mwyn mynd i’r afael â’i bryderon ac ymddiheuro am yr oedi cyn ymateb.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod hyn yn ffordd briodol o ddatrys y gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.