Dyddiad yr Adroddiad

28/04/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202005527

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X am ddiffyg eglurder ynghylch lefel y taliadau uniongyrchol i’w mab yn ystod y cyfnodau yr oedd ysgolion ar gau oherwydd COVID-19, yn ogystal ag oedi wrth wneud taliadau. Cwynodd hefyd nad oedd wedi cael diweddariad am yr argymhellion a wnaed mewn adroddiad am ei chwyn o dan gam 2 yn y weithdrefn gwasanaethau cymdeithasol statudol.
Nododd yr Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi llunio Cynllun Gweithredu i weithredu argymhellion yr adroddiad cam 2, nad oedd wedi rhannu hwn â Miss X nac wedi rhoi diweddariad iddi am y camau a gymerodd. Byddai’r Ombwdsmon yn disgwyl i achwynwyr gael eu hysbysu am gamau a gymerwyd o ganlyniad i’w cwyn.
Felly cytunodd y Cyngor i gymryd y camau canlynol, erbyn 21 Mai:
a) Darparu copi o’r Cynllun Gweithredu i’r achwynydd a chadarnhau beth roedd y Cyngor wedi’i wneud i gymryd y camau hynny.
b) Darparu ymddiheuriad i’r achwynydd am beidio â rhoi diweddariad iddi am y camau a gymerwyd ynghylch yr argymhellion ar ei chwyn.
c) Gwahodd yr achwynydd i gymryd rhan yn y grŵp buddiant ar daliadau uniongyrchol os yw’n dymuno.
d) Rhoi diweddariad i’r Ombwdsmon am y Cynllun Gweithredu a darparu i’r Ombwdsmon gopi o’i ddiweddariad i’r achwynydd.