Cwynodd Ms A ei bod yn anhapus ag ymateb Cyngor Dinas Casnewydd i’w chwyn am y broses a’r penderfyniadau a wnaed er lles pennaf ei mam. Roedd Ms A yn pryderu am y cyfathrebu, yr asesiadau o risg ac agweddau ar y gofal roedd ei mam yn ei gael yn y cartref nyrsio lle’r oedd hi’n byw.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod penderfyniad y Cyngor i ddelio â chwyn Ms A fel cwyn Gorfforaethol yn anghywir. Dywedodd fod hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Ms A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Roedd yr Ombwdsmon wedi ceisio ac wedi cael y Cyngor i gytuno i ymddiheuro i Ms A, ac i dderbyn ei chwyn o dan Gam 2 Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014, cyn pen 10 diwrnod gwaith.