Cwynodd Mr F am y modd yr aeth y Cyngor ati i ymdrin â’i gŵyn yn ymwneud â methiant ei asiantaeth gosod eiddo (“yr Asiantaeth”) i gael dogfennau diogelwch priodol ar gyfer eiddo yr oedd yn ei reoli ar ei ran (“yr eiddo”). Cwynodd Mr F fod y methiannau hyn yn annilysu ei yswiriant ac yn golygu ei fod yn wynebu risg gyfreithiol, a’i fod wedi treulio cryn amser ac ymdrech i sicrhau bod y Cyngor yn cydnabod ac yn rhoi sylw i’w bryderon. Dywedodd nad oedd y Cyngor wedi gweithredu’n llawn ar argymhellion ei ymateb i gwynion Cam 2.
Ar ôl adolygu’r dystiolaeth a oedd ar gael, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd y Cyngor wedi cydnabod yr amser a dreuliodd Mr F a’r drafferth yr aeth iddi i geisio datrys ei gŵyn. Roedd yn amlwg hefyd nad oedd y Cyngor wedi gweithredu ar yr holl argymhellion yn ei ymateb i gwynion Cam 2.
Cytunodd y Cyngor ar y camau canlynol er mwyn datrys y gŵyn:
O fewn mis
a) darparu tystiolaeth ei fod wedi cwblhau argymhellion 1 a 2 o’i ymateb i gŵyn Cam 2 (ysgrifennu llythyr ymddiheuro a chydnabod nad oedd Mr F yn gyfrifol am dorri ei rwymedigaethau cyfreithiol fel tenant)
b) talu £250 i Mr F am ei amser a’r drafferth yr aeth iddi a chydnabod yr anhwylustod a wynebodd yn sgil yr oedi cyn datrys ei bryderon.
O fewn 2 fis
c) darparu tystiolaeth ei fod wedi cwblhau argymhellion 4 a 5 o’i ymateb i gŵyn Cam 2 (adolygu trefniadau rheoli’r Asiantaeth ac adolygu’r defnydd a wneir o’r contractwr trydanol dan sylw yn y dyfodol).