Dyddiad yr Adroddiad

14/03/2023

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202106819

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs A fod y Ganolfan Iechyd wedi methu gwirio ac ardystio marwolaeth Mr A o fewn cyfnod rhesymol.
Roedd yr ymchwiliad yn cydnabod bod y cyfnod aros yn gyfnod anodd i’r teulu, ond canfu fod gwirio marwolaeth yn cael ei wneud cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol i feddyg teulu prysur. Ni fyddai wedi bod yn briodol i feddyg teulu adael cleifion sâl i fynd i weld Mr A yn yr amgylchiadau hynny. Aeth y meddyg teulu i weld Mr A o fewn 4 awr i gael gwybod am ei farwolaeth.
Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn. Gan na nodwyd unrhyw fethiant, ni wnaeth yr Ombwdsmon unrhyw argymhelliad ynghylch y gŵyn hon.