Dyddiad yr Adroddiad

05/07/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Ffyrdd a Thrafnidiaeth

Cyfeirnod Achos

202400221

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr Q fod ei dad wedi gwneud cais i gael gwared ar le parcio anabl y tu allan i’w eiddo, ond nad oedd Cyngor Caerdydd wedi gwneud hynny. Roedd Mr Q wedi cwyno i’r Cyngor ond nid oedd wedi derbyn ymateb i’w gŵyn.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mr Q wedi cwyno i’r Cyngor fwy na 12 wythnos yn gynharach ac nad oedd wedi derbyn ymateb i’w gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr Q a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr Q am yr oedi ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn pythefnos.