Cwynodd Ms L fod Cyngor Sir Ceredigion wedi methu ag ymateb i’w chwyn a wnaed ym mis Gorffennaf 2022, a’i fod hefyd wedi methu ag ymateb i’w chwyn diweddaraf yn Chwefror 2023.
Er bod y Cyngor wedi ymateb i Ms L o fewn amserlen y weithdrefn gwyno statudol, penderfynodd yr Ombwdsmon ei bod yn ymddangos nad oedd Ms L wedi ei dderbyn. Penderfynodd hefyd fod oedi sylweddol wedi bod cyn i’r Cyngor ymateb i gŵyn ddiweddar Ms L, a dywedodd fod hyn wedi gwneud i Ms L deimlo’n rhwystredig.
Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Cyngor â chais yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Ms L am yr oedi wrth ymateb i’w chŵyn ddiweddar, rhoi copi iddi o ymateb Cam 1 y Cyngor, a rhoi manylion pellach am ei weithdrefn gwyno o fewn 30 diwrnod gwaith.