Roedd yr ymchwiliad yn ystyried cwyn Mr A ynghylch ystyriaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) o’i hawliad am gyllid ôl-weithredol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus (“GIP”) y GIG, mewn perthynas â’r diweddar Mrs B a oedd, meddai ef, yn ddiffygiol. Yn benodol, dywedodd Mr A fod y Panel Adolygu Annibynnol (“y PAA”) wedi methu ag ystyried, neu gyfeirio at, dystiolaeth berthnasol a chyflwyniadau’r teulu, a’i fod wedi methu â chymhwyso’r profion cymhwysedd cywir.
Canfu’r ymchwiliad fod cyfansoddiad, trefniant a chamau gweithredu’r PAA yn cyd-fynd â Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gweithredu yng Nghymru. Roedd gan y PAA fynediad at y dystiolaeth berthnasol, ac fe wnaeth ystyried a thrafod y dystiolaeth (a oedd yn cynnwys y dystiolaeth ysgrifenedig a’r cyflwyniadau llafar a wnaed gan y teulu). Roedd y PAA hefyd wedi defnyddio’r profion cymhwysedd cywir wrth wneud ei benderfyniad. O ganlyniad, ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau.