Dyddiad yr Adroddiad

21/11/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Gofal Parhaus

Cyfeirnod Achos

202405856

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am y gofal a ddarparwyd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Dywedodd Ms A fod nifer o’i gofalwyr rheolaidd, oedd wedi’u hyfforddi’n llawn, wedi gadael heb rybudd, roedd safon y gofal wedi dirywio, ac roedd wedi cael ei gadael heb ofal ar oddeutu 10 achlysur. Gwnaeth Ms A gŵyn ffurfiol, ond nid oedd wedi derbyn ymateb.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y Bwrdd Iechyd yn gwneud ymholiadau priodol i ddod o hyd i ddarparwr gofal arall. Fodd bynnag, roedd y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i gŵyn Ms A. Dywedodd fod hynny wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb i gŵyn Ms A o fewn un mis.