Cwynodd Mr C wrth yr Ombwdsmon (gyda chymorth eiriolwr ei Gyngor Iechyd Cymuned) am ymateb Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i’w bryderon yn dilyn damwain ar 17 Mehefin 2022. Roedd ganddo bryderon ynghylch ymateb yr Ymddiriedolaeth i’r gŵyn, ei methiant i drefnu cyfarfod wyneb yn wyneb, categoreiddio’r alwad frys a chyngor y sawl a oedd yn delio â’r alwad yn ystod yr alwad.
Canfu’r Ombwdsmon fod ymateb yr Ymddiriedolaeth i’r gŵyn yn ddigonol a bod categoreiddio’r alwad frys yn seiliedig ar ymatebion ei fab i gwestiynau sgript y sawl oedd yn delio â’r alwad. Canfu’r Ombwdsmon hefyd nad oedd y gŵyn am gyngor y sawl oedd yn delio â’r alwad wedi cael ei chodi gyda’r Ymddiriedolaeth o’r blaen ac felly, ystyriwyd bod hyn yn gynamserol. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod trefniadau ar gyfer cyfarfod wyneb yn wyneb wedi dechrau ym mis Awst 2022 ond nad oeddent wedi cael eu cynnal o hyd. Cydnabuwyd bod yr Ymddiriedolaeth wedi wynebu oedi wrth gael sylwadau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb yr Ymddiriedolaeth i roi ymddiheuriad i Mr C ac i drefnu dyddiad, amser a lleoliad wedi’u cadarnhau ar gyfer cyfarfod wyneb yn wyneb, o fewn 20 diwrnod gwaith.