Cwynodd Mr V fod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi methu cyhoeddi ymateb llawn i’w gŵyn ynghylch ei fam 93 oed yn aros 16 awr i ambiwlans gyrraedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw rhoddwyd gwybodaeth anghywir, roedd yr amseroedd cyrraedd yn newid o hyd, ac roedd gorwedd ar lawr am gyfnod mor hir wedi achosi i docsinau gronni yn arennau ei fam, a gyfrannodd at ei marwolaeth.
Canfu’r Ombwdsmon, er i’r Ymddiriedolaeth gyhoeddi ymateb rhagarweiniol, nad oedd wedi rhoi gwybod i Mr V ei fod hefyd yn cynnal ymchwiliad ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb llawn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac anghyfleustra ychwanegol i Mr V.
Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad a gofynnodd am gytundeb yr Ymddiriedolaeth i gyhoeddi ei hymateb llawn o fewn pythefnos, ynghyd ag ymddiheuriad am fethu roi gwybod iddo fod ymchwiliad ar y cyd yn mynd rhagddo.