Dyddiad yr Adroddiad

12/03/2024

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Gwasanaethau Ambiwlans

Cyfeirnod Achos

202309055

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Eglurodd Mrs N ei bod hi a’i theulu wedi gwneud nifer o alwadau 999 ac i’r gwasanaeth 111 ar ran ei thad, Mr L, drwy gydol 1 Ionawr 2023. Cwynodd Mrs N y cawsant wybod bod angen aros 6-8 awr cyn y gallai ambiwlans ddod allan atynt. Dywedodd y dylai gofal Mr L fod wedi cael ei flaenoriaethu’n gynt a dim ond pan stopiodd anadlu yr anfonwyd ambiwlans allan. Erbyn hynny roedd yn rhaid i Mrs N a’i brawd ddechrau CPR. Yn drist, ni ellid adfywio Mr L.

Casglodd yr Ombwdsmon nad oedd ymateb yr Ymddiriedolaeth wedi ateb yn llawn y cwestiwn a oedd y gofal a ddarparodd yn glinigol briodol. Nid oedd wedi egluro’n iawn a oedd yn credu y deliwyd yn briodol â’r galwadau 999 ac 111, yn enwedig o ystyried rhai anghysondebau i bob golwg yn y wybodaeth oedd wedi’i chofnodi am gyflwr clinigol Mr L.

Cytunodd yr Ymddiriedolaeth i roi ymateb pellach i Mrs N yn egluro’n gliriach a gafodd ambiwlans ei ddyrannu’n gywir ar y cyfle cyntaf priodol ac a oedd yn credu y deliwyd a bod yr holl alwadau ffôn wedi eu categoreiddio’n briodol. Cytunodd yr Ymddiriedolaeth i wneud hyn o fewn un mis i ddyddiad penderfyniad yr Ombwdsmon.