Cwynodd Ms A am y ffordd yr ymatebodd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i alwadau brys a wnaed ynghylch ei diweddar frawd, Mr B.
Canfu’r ymchwiliad fod y galwadau brys wedi’u blaenoriaethu’n gywir a bod yr oedi cyn i ambiwlans gyrraedd Mr B oherwydd y galw a oedd yn fwy na’r adnoddau oedd ar gael i’r Ymddiriedolaeth bryd hynny. Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad hefyd fod cyfleoedd o bosib wedi’u colli i gynnal asesiad clinigol dros y ffôn o gyflwr Mr B. Nid yw’n bosibl dweud beth fyddai canlyniad yr asesiad hwn pe bai wedi’i gynnal, ond mae’r ansicrwydd hwn yn anghyfiawnder i Ms A. I’r graddau hyn, cadarnhawyd cwyn Ms A.
Cytunodd yr Ymddiriedolaeth i ymddiheuro i Ms A am y methiannau a nodwyd yn ystod yr ymchwiliad. Cytunodd hefyd, os nad oedd wedi gwneud hynny eisoes, i roi adborth i’r clinigydd a geisiodd gynnal yr asesiad dros y ffôn ar y broses gywir ar gyfer rheoli ymdrechion cyswllt a fethwyd. Cytunodd yr Ymddiriedolaeth hefyd i gwblhau adolygiad polisi yr oedd wedi’i gynnal ac ystyried cynnwys cam gweithredu i wirio’r rhif cyswllt mwyaf priodol pan wneir galwadau 999 o gartref gofal neu gartref nyrsio.