Cwynodd Mrs D am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w mam, Mrs C, gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (“yr Ymddiriedolaeth”). Roedd yr ymchwiliad yn ystyried a arweiniodd methiannau yn asesiad yr Ymddiriedolaeth o Mrs C at oedi cyn iddi gael triniaeth a allai fod wedi atal ei marwolaeth o sepsis (pan mae’r corff yn gorymateb i haint ac yn niweidio’r organau a’r feinwe).
Canfu ymchwiliad yr Ymddiriedolaeth i gŵyn Mrs D nifer o fethiannau yn yr asesiad a’r gofal a roddwyd i Mrs C, ond dywedodd, ar sail tebygolrwydd, nad oedd y methiannau a nodwyd wedi achosi niwed i Mrs C. Canfu’r Ombwdsmon ei bod yn annhebygol y byddai triniaeth gynharach wedi atal ei marwolaeth o ganlyniad i sepsis. Gan na nodwyd unrhyw anghyfiawnder, ni chafodd cwyn Mrs D ei chadarnhau.