Cwynodd yr achwynydd nad oedd y Cyngor wedi ei chydnabod fel gofalwr ei pherthynas a oedd yn byw mewn llety â chymorth ac am ansawdd y cynlluniau gofal a oedd wedi’u paratoi. Roedd Ms A yn anhapus â’r ffordd roedd y Cyngor wedi delio â’i chŵyn, yn benodol am nad oedd y Cyngor wedi’i diweddaru nac wedi rhoi copi iddi o’r adroddiad a gynhyrchwyd yn dilyn ymchwiliad yng Ngham 2 o’r weithdrefn gwyno.
Er yr ymddengys fod y Cyngor wedi anfon copi o’r adroddiad Ymchwiliad Cam 2 ynghyd â llythyr ymateb ffurfiol i’r gŵyn at y COMPL, nid oedd wedi eu cael. Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb y Cyngor wedi’i gwblhau tan 6 mis ar ôl cwblhau’r Ymchwiliad Cam 2 ac ni allai’r Cyngor gadarnhau na dangos tystiolaeth bod y camau a gynigiwyd ganddo i setlo’r achos, wedi eu cyflawni.
Cytunodd y Cyngor, a hynny o fewn 10 niwrnod gwaith, i gyflwyno copi i Ms A o adroddiad ymchwiliad Cam 2 annibynnol a’i lythyr yn ymateb i’r gŵyn. Cytunodd y Cyngor y byddai, o fewn 2 fis, yn cwblhau’r camau a ddisgrifir yn y llythyr ymateb i’r gŵyn, yn ymddiheuro i Ms A ac yn cynnig eglurhad am yr oedi wrth ddelio â’r gŵyn ac yn cwblhau’r camau y cytunwyd arnynt, ynghyd â manylion am fesurau a gymerwyd i osgoi ailadrodd y diffygion a brofwyd eto yn y dyfodol. Cytunodd hefyd i esbonio pam nad oedd y Cyngor wedi ei hystyried fel gofalwr ei pherthynas cyn hyn a’r rhesymau pam y bu iddo newid ei feddwl. Cytunodd y Cyngor hefyd i drefnu cyfarfod rhwng Ms A ac uwch swyddog o’r adran Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion i drafod y pryderon.