Dyddiad yr Adroddiad

14/08/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolyn

Cyfeirnod Achos

202401861

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y gofal a ddarparwyd i’w diweddar fam yn y Cartref Gofal lle’r oedd yn byw. Roedd Mrs A yn anfodlon ar ymateb y Cartref Gofal i’r gŵyn a chysylltodd â’r Cyngor ynghylch ei phryderon. Cwynodd Mrs A wrth yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi ei chyfeirio’n ôl at y Cartref Gofal, a dywedodd y byddai’n ystyried y materion a godwyd ganddi yn yr arolygiad nesaf.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor fod wedi cydnabod a derbyn pryderon Mrs A yn y broses gwyno ffurfiol. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gydnabod ac ymateb i’r gŵyn yn unol â Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014, o fewn mis.