Dyddiad yr Adroddiad

12/01/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202106249

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X fod y Cyngor wedi methu â rhoi ymateb cam dau i’w chŵyn.

Wrth ystyried y gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am yr oedi a’r anghyfleustra i Mrs X yn sgil methiant y Cyngor i roi ymateb. Yn lle ymchwiliad, gofynnodd i’r Cyngor gwblhau’r canlynol i setlo cwyn Mrs X erbyn, 31 Ionawr 2022:-

a) Ymddiheuro i Mrs X am yr oedi wrth ymateb i’w chŵyn

b) Rhoi copi o adroddiad cam dau i Mrs X

47. Cwynodd Mrs X am reolaeth y Cyngor o’r trefniadau gofal a diffyg darpariaeth i’w hwyres, a oedd yn ei gofal ar y pryd.

Wrth ystyried y gŵyn, nododd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â delio â phryderon Mrs X (a nodir mewn llythyr at y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol) yn unol â’r broses gwyno gywir ac wedi ymateb iddynt fel cwyn gorfforaethol. Yn unol â hynny, cysylltodd â’r Cyngor i ofyn iddo gymryd y camau canlynol:
O fewn un mis:
(a) I roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Mrs X am beidio â mynd i’r afael â’i chwynion o dan Rheoliadau Gweithdrefn Gwyno y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) (“y Rheoliadau”) yn y lle cyntaf, ac am fethu â’i chynghori o’i hawl statudol i symud ei phryderon ymlaen i Ymchwiliad Annibynnol Cam 2 o dan y Rheoliadau.

(b) I gynnig iawndal o £125 i Mrs X am yr amser a’r drafferth o orfod mynd ar drywydd ei phryderon gyda’r Cyngor, a’i swyddfa, ac yn dilyn hynny, am yr oedi o orfod mynd ar drywydd ei phryderon o dan y Rheoliadau.
(c) I benodi Ymchwilydd Annibynnol i symud ei phryderon yn eu blaenau o dan Gam 2 o’r Rheoliadau.
(d) I roi copi i’w swyddfa o adroddiad ymchwiliad Cam 2 o fewn un mis i’w gwblhau.

Ystyriodd yr Ombwdsmon fod hyn yn ateb priodol i’r gŵyn yn lle cynnal ymchwiliad.