Cwynodd Mrs P fod Cyngor Sir Ceredigion wedi gwrthod ystyried ei chŵyn am wasanaethau cymdeithasol, gan nad oedd yn bodloni meini prawf cymhwyso ar gyfer cwyn.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod rhai elfennau o’r gŵyn yn ymwneud ag achosion llys, roedd un mater y gellid ei ystyried o dan broses gwyno’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ag ystyried y mater penodol hwn. Dywedodd fod hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Mrs P. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mrs P o fewn pythefnos a darparu llythyr cydnabod cam un y gwasanaethau cymdeithasol iddi.