Cwynodd Mr Z nad oedd Cyngor Sir Powys wedi uwchgyfeirio ei gŵyn Gwasanaethau Cymdeithasol i Gam 2 pan ofynnodd iddynt wneud hynny.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd gweithredoedd y Cyngor yn cydymffurfio â’r gofynion a nodir yn Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mr Z a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ddarparu, o fewn 1 wythnos, ymddiheuriad i Mr Z, gwybodaeth am sut y byddant yn ymchwilio i’r gŵyn, gwybodaeth am yr Ymchwilydd Annibynnol, cofnod ysgrifenedig ffurfiol o’r gŵyn, a gwahoddiad i roi sylwadau ar ei chywirdeb.