Dyddiad yr Adroddiad

18/11/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Gwasanaethau i Bobl hŷn

Cyfeirnod Achos

202204169

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A am nad oedd Cyngor Bro Morgannwg wedi trefnu pecyn gofal ar gyfer ei mam ac nad oedd wedi mynd â’i chŵyn ymlaen i ail gam y weithdrefn gwyno statudol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi oedi cyn symud y gŵyn ymlaen a bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Miss A, i gynnig iawndal am yr anghyfleustra o orfod cysylltu â’r Ombwdsmon a mynd â’r gŵyn ymlaen i gam dau’r broses gwyno drwy benodi Ymchwilydd Annibynnol i wneud y gwaith, o fewn mis.