Cwynodd Miss A ei bod yn anfodlon â’r gwasanaethau gofal preswyl a ddarparwyd i’w mam a bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi methu â chynnal ymchwiliad annibynnol i’w phryderon.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er gwaethaf ceisiadau Miss A i uwchgyfeirio ei phryderon, ni wnaeth y Cyngor symud ymlaen i gam 2 Gweithdrefn Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Miss A o fewn 20 diwrnod gwaith, ac i dalu £50 am gam-drin ei chŵyn, i symud ymlaen ag ymchwiliad annibynnol, ac i sicrhau bod aelodau staff perthnasol yn ymwybodol o broses Polisi Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor.