Dyddiad yr Adroddiad

22/04/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Pwnc

Gwasanaethau i Bobl hŷn

Cyfeirnod Achos

202108255

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am y ffordd yr aseswyd ac y darparwyd ar gyfer anghenion gofal cymdeithasol ei fam ar ôl iddi gael ei rhyddhau o’r ysbyty a gofal seibiant. Cwynodd hefyd am y ffordd yr oedd y Cyngor wedi asesu materion ariannol ei fam mewn perthynas â’i hatebolrwydd am gostau gofal.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymchwilio eto i gwynion Mr X am anghenion gofal ei fam o dan weithdrefn gwyno statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol a bod cysylltiad anorfod rhwng y gŵyn am yr asesiad ariannol a’r cwynion hynny.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor, o fewn 20 diwrnod gwaith, gadarnhau i Mr X y byddai’n ymchwilio i’w gwynion am anghenion gofal ei fam yn unol â’r amserlenni perthnasol ac, wrth wneud hynny, i ohirio ei gais am ad-dalu costau gofal. Gofynnodd yr Ombwdsmon hefyd i’r Cyngor, o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl cwblhau’r ymchwiliad, gadarnhau i Mr X ei safbwynt terfynol o ran atebolrwydd am y costau gofal. Cytunodd y Cyngor i wneud hynny ac ni chynhaliodd yr Ombwdsmon ymchwiliad.