Dyddiad yr Adroddiad

20/03/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Dinas Casnewydd

Pwnc

Gwasanaethau i Bobl hŷn

Cyfeirnod Achos

202407384

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr M fod Cyngor Dinas Casnewydd wedi methu ag ymateb i’r cwynion niferus a godwyd ganddo.

Penderfynodd yr Ombwdsmon bod y Cyngor wedi methu â darparu ymateb i Mr M. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr M. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai’n ymddiheuro i Mr M ac yn rhoi esboniad iddo am beidio â mynd i’r afael â’i bryderon. Cytunodd y Cyngor hefyd i roi taliad iawndal o £100 i Mr M ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn erbyn 24 Ebrill 2025.