Dyddiad yr Adroddiad

07/11/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Gwasanaethau i oedolion Agored i Niwed (ee gydag anawsterau dysgu. neu â materion iechyd meddwl)

Cyfeirnod Achos

202203842

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms V am oedi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd”) i fwrw ymlaen ag atgyfeiriad am electrocardiogram (“ECG” – prawf i wirio rhythm a gweithgarwch trydanol y galon) yn 2021 a bod hyn wedi cael effaith niweidiol ar ei gofal.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi cyn trefnu ECG ar gyfer Ms V ym mis Medi 2021, er gwaethaf ceisiadau’n cael eu gwneud mor gynnar â mis Rhagfyr 2020. At hynny, roedd Ms V wedi cael meddyginiaeth ar bresgripsiwn, ac wedi dechrau ei chymryd, ond ni ddylid bod wedi’i rhoi iddi tan ar ôl iddi gael ECG. Nid oedd hyn yn unol â’r canllawiau cenedlaethol. Er hynny, ni chafodd yr oedi ganlyniadau niweidiol ar iechyd Ms V.

Serch hynny, roedd yr Ombwdsmon yn teimlo fod y diffyg hwn yn ddigon sylweddol i gadarnhau’r gŵyn ac argymell bod y Bwrdd Iechyd yn cryfhau ei brosesau ac yn adolygu cofnodion cleifion i wneud yn siŵr nad oes unrhyw un arall wedi cael yr un profiad.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu ar argymhellion yr Ombwdsmon.