Dyddiad yr Adroddiad

22/04/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Dinas Casnewydd

Pwnc

Gwasanaethau i oedolion Agored i Niwed (ee gydag anawsterau dysgu. neu â materion iechyd meddwl)

Cyfeirnod Achos

202107727

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am benderfyniad Cyngor Dinas Casnewydd i godi tâl am ofal cymdeithasol a ddarperir i’w fab yn ei leoliad addysgol. Dywedodd fod y gofal a gâi ei fab yn y coleg yn rhan o’i ddarpariaeth addysgol pan gafodd le ar raglen anghenion hollgynhwysol. At hynny, dywedodd Mr X nad oedd unrhyw fyfyriwr cynhwysol arall yn talu cyfraniadau gofal cymdeithasol i fynychu’r coleg.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi gwrthod ymchwilio i gŵyn Mr X yn unol â’i broses gwyno gan ei fod yn dweud bod Mr X wedi’i hysbysu ei fod yn bwriadu cymryd camau cyfreithiol, a bod ei broses adolygu wedi rhoi gwybodaeth sylweddol i Mr X am y taliadau. Fodd bynnag, er bod y broses adolygu wedi ceisio mynd i’r afael â’r swm yr oedd mab Mr X yn gymwys i’w dalu, nid oedd wedi mynd i’r afael â pham yr oedd yn talu unrhyw beth o gwbl. At hynny, o ystyried amgylchiadau Mr X, ni chafodd yr Ombwdsmon ei darbwyllo bod camau cyfreithiol yn opsiwn iddo.

Ar gais yr Ombwdsmon cytunodd y Cyngor i ymchwilio ac ymateb yn ffurfiol i gŵyn Mr X am y taliadau ariannol, gan gyfeirio at y ddeddfwriaeth a/neu’r polisïau yr oedd wedi glynu wrthynt wrth ddod i’w penderfyniad i’w gorfodi, o fewn 20 diwrnod gwaith.