Cwynodd Miss X fod y Cyngor wedi methu ag ymateb i’w chŵyn am y gwasanaethau cymdeithasol, a’i fod hefyd wedi methu ag ymateb i’w llythyrau.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor gysylltu â Miss X (cyn pen 5 diwrnod) i ganfod a fyddai’n hoffi i’w chwyn gael ei thrin ar gam 1 neu ar gam 2 trefn gwyno’r gwasanaethau cymdeithasol. Wedi hynny, dylai ymdrin â chwyn Miss X yn unol â’r amserlenni statudol. Dylai hefyd ymddiheuro i Miss X am fethu ag ymateb i’w llythyrau.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod hyn yn ffordd briodol o ddatrys y gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.