Cwynodd Mr A ei fod wedi aros 6 blynedd am lawdriniaeth i osod pen-glin newydd gan y Bwrdd Iechyd ac nad oedd wedi ymateb i’w gŵyn.
Canfu’r ymchwiliad nad oedd yn glir a oedd y Bwrdd Iechyd wedi derbyn cwyn Mr A ac na chafodd ei hymchwilio’n fewnol. Felly, nid oedd yn bosib dweud a oedd y Bwrdd Iechyd yn cytuno â phryderon Mr A neu’n eu gwrthod.
Er mwyn bwrw ymlaen â chŵyn Mr A, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymchwilio i’w bryderon drwy ddilyn y broses gwyno ffurfiol. Byddai Mr A yn gallu dychwelyd at yr Ombwdsmon gyda’i gŵyn maes o law os nad oedd yn fodlon ag ymateb terfynol y Bwrdd Iechyd.