Dyddiad yr Adroddiad

30/04/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Cyfeirnod Achos

202310379

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymateb i’r gŵyn a wnaeth iddo ym mis Mehefin 2023.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod gan y Bwrdd Iechyd i ymateb i bryderon Mr A a bod hyn wedi achosi anhwylustod a rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Roedd yr Ombwdsmon wedi ceisio ac wedi cael y Bwrdd Iechyd i gytuno i ymddiheuro i Mr A ac i dalu iawndal o £150 iddo fel cydnabyddiaeth o’r amser roedd wedi’i dreulio a’r drafferth roedd wedi’i gymryd i gwyno i’r Ombwdsmon. Hefyd, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb i gŵyn Mr A cyn pen 4 wythnos.